Swyddi Gweithredol
Bydd y broses o recriwtio ar gyfer swyddi gweithredol yn dechrau yn 2018, a bydd Wheelabrator yn hysbysebu swyddi’n lleol, gan gynnwys drwy’r Ganolfan Byd Gwaith.
Bydd oddeutu 35 o swyddi gweithredol amser llawn newydd yn cael eu creu pan fydd cyfleuster Wheelabrator Parc Adfer yn dechrau gweithio yn 2019. Bydd y swyddi hyn yn amrywio o swyddi rheoli ar y safle i rolau gweinyddol, technegol a gweithredol arbenigol.
Bydd Wheelabrator yn hysbysebu’r swyddi hyn yn nes at yr amser ac yn gobeithio y bydd pobl o’r ardal leol yn llenwi'r swyddi.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at info@parcadfer.com