Swyddi Adeiladu
Mae Wheelabrator wedi dewis Grŵp CNIM fel ein contractwr Peirianneg, Caffael ac Adeiladu. Yn eu tro, maent hwy wedi penodi Clugston Construction i arwain y gwaith peirianneg sifil. Gyda’i gilydd, CNIM a Clugston yw’r partneriaid cyflenwi a ddewiswyd gennym ar gyfer prosiect Parc Adfer.
Disgwylir y bydd cannoedd o swyddi ychwanegol yn cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu. Bydd y swyddi’n amrywio, gan ddibynnu ar y sgiliau y bydd eu hangen wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.
Am ragor o wybodaeth am swyddi adeiladu, ewch i wefan Clugston Construction a CNIM neu e-bostio info@parcadferconstruction.co.uk
Bod yn Gyflenwr I Parc Adfer
Nod cyfleuster Wheelabrator Parc Adfer yw defnyddio cyflenwyr lleol os oes modd drwy gydol y cyfnodau adeiladu a gweithredol. Rydym yn chwilio am gyflenwyr yn y sectorau canlynol:
- Arlwyo
- Arolygon
- Arolygon teledu cylch cyfyng
- Arwynebu a marcio llinellau
- Cemegau
- Cyfarpar a nwyddau traul
- Cyflenwadau swyddfa, deunydd papur a pheiriannau llungopïo
- Cymorth cynnal a chadw (trydanol, mecanyddol, inswleiddio, sifil)
- Cynhyrchu pŵer ar raddfa fach (cludadwy)
- Drilio diemwnt, llifio lloriau ac ati
- Ffitiadau
- Gosodwaith trydanol
- Gwaith bric a bloc
- Gwaredu gwastraff
- Gwasanaethau a chyfarpar trydanol/mecanyddol bach
- Gwasanaethau adeiladu
- Gwasanaethau glanhau swyddfeydd
- Hurio craeniau symudol
- Londri/glanhau
- Llety
- Lloriau meddal
- Mastig
- Nenfydau a waliau mewnol
- Peintio ac addurno
- Rheolaeth ac awtomateiddio diwydiannol
- Sgaffaldwaith
- Tacsis a chludiant
- Tirlunio
- Ymgynghorwyr concrit ac agregau (diogelwch safleoedd, cyd-destun diwydiannol arall)
Mae dau ddigwyddiad Cwrdd â'r Prynwr wedi’u cynnal i esbonio sut y gall busnesau lleol baratoi er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd gwerth sawl miliwn o bunnoedd y bydd Wheelabrator Parc Adfer yn eu darparu. Cynhaliwyd y ddiweddaraf ar 20 Hydref 2016 yng Ngholeg Cambria yng Nghei Connah.
Mae cyfleoedd yn dal ar gael i fusnesau ddarparu gwasanaethau i brosiect Wheelabrator Parc Adfer. Ewch i wefan Clugston Construction a CNIM neu e-bostio info@parcadferconstruction.co.uk